Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sydd wedi crynhoi trychineb Wcráin – a Rwsia…

“…mae [Rwsia] wedi dirywio’n economi warchae ymosodol, wedi’i sensro’n llym, yn cael ei harwain gan bobol sydd fel petaen nhw’n cael eu gyrru gan genedlaetholdeb Rwsiaidd wenwynig sydd eisiau adfer rhyw ogoniant dychmygol o’r 19fed ganrif. Mae wedi creu rhyfel yn Wcráin nad oedd yn barod amdano ac nad oes ganddi’r gallu i’w ennill. Mae miloedd o bobol wedi marw er mwyn arbed egos y rhai ym Moscow sy’n teimlo bod bodolaeth Wcráin ynddo’i hun yn sarhad… Ar y funud, trasiedi yw cyflwr Rwsia a, gwaetha’r modd yn Wcráin, trasiedi yw ei hallforiad mwya’…” (thenational.wales)

Un o effeithiau’r rhyfel, wrth gwrs, ydi dwysáu’r argyfwng ynni oedd yn bod eisoes. Ymateb mwya’ Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ydi cynnig gorsafoedd niwclear a chwilio am ragor o nwy ac olew. Hynny sy’n eu poeni nhw yn yr Alban …

“Ychydig fisoedd yn ôl, fe gawson ni’r siarâd o [gynhadledd amgylcheddol] COP26 yn Glasgow, methiant llwyr a ddilynwyd gan gyd-guro cefn a hunan-dwyll, wrth i’r cyfryngau torfol a gwleidyddion gydweithio i’n beio ni am eu methiannau nhw. Bellach, mae hyd yn oed y rhith hwnnw wedi ei ollwng. Mae’r dyn a oedd am wneud llwyddiant mawr o Brexit, am godi pont i Ogledd Iwerddon ac a addawodd hanner cant o ysbytai newydd, yn awr am godi naw gorsaf niwclear newydd. Fe ddaeth Greg Hands, y Gweinidog Ynni, yn ei flaen… i egluro y byddai’r Alban yn colli’r cyfle am holl swyddi’r cyfnod niwclear newydd ac y bydd [maes olew] Cambo a gweddill Môr y Gogledd yn cyflenwi mwy o danwydd ffosil amgylcheddol-gyfeillgar nac olew a nwy drwg o dramor.

“Mae fel byw mewn uffern o dwpdra. Ond nid nhw sy’n wirion. Ni sydd.” (Mike Small ar bellacaledonia.org.uk)

Ond y niwclear sy’n poeni Dafydd Glyn Jones. Mae’n cyfeirio at straeon y BBC yn sôn am obaith o gael atomfa newydd ym Môn. Anobeithio y mae yntau, gan ddyfalu o ble y daw’r arian…

Na phoenwch, mae Llywodraeth Prydain yn barod i gyfrannu can miliwn. Felly rhyw £19,900,000,000 i’w godi drwy ymdrechion lleol. Dwedwch fod AS Môn yn cyfrannu miliwn o’i phoced ei hun, dyna ddechrau da. Miliwn wedyn gan Aelod Cynulliad Môn? A miliwn bach arall gan Arweinydd Cyngor Môn? Oes yna ambell hen focs hel at y Genhadaeth ar ôl ar yr Ynys, i hel tipyn o ddrws i ddrws? A beth am stondin ar sgwâr Llangefni, gyda ffarmwrs Môn yn cyfrannu ambell hanner sachaid o datws at yr achos?” (glynadda.wordpress.com)

Yr un thema o dwpdra (ein heiddo ni neu nhw) sy’n cynnal John Dixon ar borthlas.blogspot.com wrth weld y Ceidwadwyr yn amddiffyn y Canghellor Rishi Sunak ac yn gwarchod preifatrwydd ariannol ei wraig…

“Rwy’n siŵr y byddan nhw’n dangos llawn cymaint o gydymdeimlad at unrhyw un sy’n gwneud cais am fudd-daliadau yn y dyfodol ac yn gwrthod rhoi manylion ariannol gweddill aelodau’r teulu ar y sail nad nhw sy’n gwneud yr hawliad a’i bod yn annheg ystyried incwm y tylwyth cyfan. Wedi’r cwbl, fydden nhw ddim eisie dadlau bod rheolau gwahanol yn gymwys iddyn nhw, yn na fydden nhw?”