Ar gychwyn tymor criced newydd mae gan glwb Morgannwg gapten newydd sy’n edrych ymlaen at chwarae o flaen torfeydd unwaith eto, wedi blynyddoedd llwm y pandemig…

Wrth siarad â Golwg ar drothwy’r tymor criced newydd, mae capten newydd Clwb Criced Morgannwg yn pwysleisio pwysigrwydd bwrw iddi, chwarae criced da a cheisio ennill pob gêm drwy ddilyn yr un broses sefydlog, ond deall mai’r perfformiad sydd bwysicaf.