“Fy nod yw dod â swyddi a buddsoddiad i Ynys Môn… heb swyddi ni fydd dyfodol i’r iaith Gymraeg.”

 Dyna eiriau AS Môn sydd wedi bod yn trafod ynni niwclear gyda Huw Bebb…

Mae hi’n teimlo fel bod y ddadl ynglŷn â Wylfa wedi bod yn mynd ymlaen am byth, ac yn wir mae yna sôn am gael atomfa newydd ar Ynys Môn wedi bod er y 1980au – ymhell cyn i mi gael fy ngeni!