Dechreuodd diddordeb Naomi Saunders, un o gyflwynwyr achlysurol newydd rhaglen Garddio a Mwy ar S4C, mewn ffyrdd gwyrdd wrth iddi gadw ambell blanhigyn yn y tŷ.

Ond yn fuan, fe flodeuodd ei diddordeb a throdd at fyw yn yr ardd a phlannu blodau a thyfu llysiau a ffrwythau.

Ac mae hi’n dweud bod y bwyd mae hi ei hun yn tyfu “yn blasu gymaint, gymaint gwell”.