Mae miloedd o Gymry yn gwirioni ar ddillad cwmni Clyd, sydd newydd agor siop yn y gogledd…

Fel hobi ddechreuodd busnes dillad a nwyddau Cymreig Linette Gwilym, ond bron i ddeg mlynedd ers ei sefydlu mae ganddi dros 16,000 o ddilynwyr Instagram.

Mae cwmni Clyd wedi llwyddo i gyrraedd cwsmeriaid di-Gymraeg sy’n awyddus i ddangos eu balchder yn eu Cymreictod ac wedi agor siop yng Nghaernarfon.