Mae nofel graffig newydd wedi ei chreu gan Gymro sydd wedi perfformio ar lwyfan gyda Daniel Day Lewis, un o’r actorion gorau yn hanes y sinema…

Mae cyn-weithiwr dur wedi troi at sgrifennu nofelau graffig ers ymddeol, a newydd gyhoeddi ei lyfr Cymraeg cyntaf.

Bu Paul Wines o dref Maesteg yn gweithio yn y gwaith dur ym Mhort Talbot yn y 1980au, ac mae ei lyfr Gwallt Gwyllt: Cysgod y Cadno yn llawn cartŵns a stori ddifyr i blant.