Aeth degawd heibio ers cychwyn label recordiau sydd wedi cyhoeddi caneuon Candelas, Sŵnami, Mared ac Yr Eira…

“Does yne ddim pleser tebyg i weithio’n galed i annog a hybu band i ryddhau cerddoriaeth.”

Dyna eiriau Branwen Williams, un o hoelion wyth label recordiau I Ka Ching wnaeth ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed y llynedd… ond gyda’r pandemig, ac fel sawl peth arall, mae’r dathlu yn digwydd mymryn yn hwyrach.