Newyddion da o lawenydd mawr!

Mae fy mharsel gan British Thermals wedi cyrraedd! O’r diwedd, mae gennyf thermal vests, long johns ffasiynol a sanau trwchus iawn (2.45 tog).

Ac, i fod yn deg, rwy’n edrych yn wych iawn yn eu gwisgo. Fel Albert Steptoe Cymreig yn gwylio S4C, tra’n eistedd wrth yr unig reiddiadur rydan ni bellach yn gallu fforddio’i dwymo.