Eistedd ar hold oeddwn i fore ddoe, a phendwmpian, fel mae rhywun yn gwneud. Mewn pwl o egni gwanwyn-aidd, mi benderfynais wynebu’r anochel: codi’r ffôn a galw pob cwmni dwi ‘di bod yn ei osgoi dros y misoedd diwetha. Tri phaned o goffi sydyn a dyma fentro a ffonio’r cwmni nwy – sydd wedi ffraeo efo’r cwmni trydan – ac wedi hanner awr o bledio, cael mymryn bach o sens. Buddugoliaeth! Coffi arall! Ymlaen, at linell dalu’r dreth gyngor, gwasanaeth cyngor ynni cynaliadwy Llywodraeth Cymru,