Ychydig wythnosau yn ôl, wrth bori drwy Facebook, digwydd i fi daro ar sgwrs roedd un o fy ffrindiau Facebook wedi cyfrannu ati rhwng criw o rieni yn ei hardal leol.

Sgwrs oedd hi’n trafod y newyddion bod eu plant, disgyblion mewn ysgol gynradd Saesneg ei chyfrwng dwi’n meddwl, wedi cael eu hymweliad â gwersyll yr Urdd wedi’i ohirio neu ei ganslo.