Dychwelodd rybish i’n sgriniau’n ddiweddar. Na, nid yw Tipit neu Oci Oci Oci! yn ôl, sôn yr ydw i am ail gyfres y rhaglen gomedi o’r enw Rybish. (Gadewch i ni gael y jôc yna allan o’r ffordd yn gynnar). I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd, cyfres wedi ei lleoli mewn canolfan ailgylchu yn y gogledd yw offrwm diweddaraf Barry ‘Archie’ Jones, y gŵr a ddaeth â rhai o gyfresi comedi gorau’r blynyddoedd diweddar i ni, Dim Byd a