Mi’r oedd yna adeg yn y 1990au pan yr oedd clybiau yn archebu tocynnau ar gyfer gemau rhyngwladol yn uniongyrchol trwy Gymdeithas Pêl-droed Cymru. Ac ar ôl y clybiau mawr proffesiynol, roedd un clwb yn archebu mwy o docynnau nag unrhyw glwb arall yng Nghymru. A’r clwb yna oedd Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle.

Nantlle Vale yw un o glybiau mwyaf difyr y wlad. Mae’r cae yn drawiadol iawn gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir dramatig.