Bai’r ysgol Sul oedd e.

Mam sy’n gweud bod rhaid i ni fynd, Mali a fi, oherwydd bod e’n dda i ni ddysgu am Dduw a Iesu Grist a phethe fel ’na. So i’n credu fod Dad mor keen â ’ny, achos ma’ fe’n gweud fod e ddim yn credu mewn Duw.