Mae’r lluniau rydyn ni’n eu gweld yn dod o Wcráin yn mynd yn waeth ac yn waeth. Mae’r diweddaraf, o feddi torfol, ac o gyrff meirw ar hyd y strydoedd, wedi peri i ohebwyr a sylwebwyr ddechrau sôn mwyfwy am “droseddau rhyfel” gan filwyr Rwsia.

Ac mae’n rhaid i fi gyfaddef nad ydw i’n deall y cysyniad o gwbl yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd yn Wcráin.