Doedd dim syndod fod y lluniau wedi lledu ar hyd a lled y byd. Merch saith oed mewn lloches dan ddaear ynghanol rhyfel Wcráin yn canu un o alawon Frozen.

Peth arall oedd gweld Amelia Anysovich mewn neuadd anferth yng ngwlad Pwyl yn canu anthem ei gwlad a miloedd ar filoedd o oleuadau ffôn yn chwifio’n rhythmig o’i blaen.