Alla’ i ddim rili gweud ’mod i’n becso rhyw lawer am yr Oscars, felly yn y gwely o’n i pan roiodd Will Smith slap i Chris Rock yn ’i jops. Fe ddeffres i’r bore trannoeth a darllen, dros baned, y ‘takes’ dibendraw ar y We, y pontifficetio arferol gan drydarwyr a cholofnwyr (ahem!) am jôcs sy’n pynsho lan ne’ lawr… erbyn diwedd fy mhaned o’n i’n timlo fel pynsho ambell berson fy hun.