Dau hanes sydd wrthi’n dod o Wcráin ar hyn o bryd, a dau wrthgyferbyniol. Mae’r cyntaf yn un sydd, o leiaf i weld, yn galonogol. Mae Rwsia’n ymgilio o ogledd y wlad. At ba ddiben, dydyn ni ddim yn siŵr. Gallai fod yn ymgilio cyffredinol wrth i’w hamcanion cychwynnol droi’n lludw a’i cholledion milwrol (dros 10,000 o filwyr yn ôl amcangyfrifon credadwy) droi’n anghynaladwy. Mae’n debyg y bydd yna ffocws o’r newydd ar ddwyrain y wlad i atgyfnerthu’r Donbas. Amhosib ydi dweud, ar hyn o bryd, pa mor