Bydd unrhyw un sydd wedi darllen fy ngeiriau dros y tri degawd diwethaf yn deall na fyswn i byth yn cymryd yn ganiataol bod Cymru am gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd. Ond gyda Chymru yn yr het oherwydd gohirio ein gêm ail-gyfle, mae’n anodd peidio asesu ein gwrthwynebwyr pe baen ni yn curo’r Alban neu Wcráin ym mis Mehefin.