Mae’n braf mynd am dro, o bryd i’w gilydd, i rywle pert fel Aberglaslyn. Nid yw’n newid byth – a braf yw mwynhau prydferthwch y gornel fach honno o Gymru – sydd mor dlws heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl.

Mae’n cynnig heddwch a chysondeb mewn bywyd sy’n prysur newid.

Rhywbeth sy’n brin iawn yng Nghaerdydd. Dinas sy’n newid yn gyson o dan ofal ei Chyngor Sir weithgar.