Un o fy hoff bodlediadau yw The Socially Distant Sports Bar, podcast “chwaraeon” Elis James, Steff Garrero a Mike Bubbins. Bois doniol iawn a bydd cyfle i chi weld dau ohonynt yn o fuan wrth i Elis a Mike fynd â’r Iaith ar Daith. Dw i’n eithaf licio Bubbins er ei fod o’n hoff iawn o’i lais ei hun, mae o’n rantiwr heb ei ail ac un o’r pethau y mae’r comedïwr yn hoff o’i wneud ar y pod yw enwi gigs neu jobsys y mae o wedi eu gwrthod dros y blynyddoedd!