Er iddo gael cynnig dangos ei luniau ar ddechrau 2020, dim ond nawr mae arddangosfa fawr o waith artist sydd wedi crwydro Cymru yn digwydd mewn oriel grand ar benrhyn Llŷn….

‘Y daith yn fy nghalon’ yw enw arddangosfa newydd o waith Russ Chester sydd yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn hyd at fis Mai. Dyma deitl ei lyfr hefyd, sy’n cynnwys yr holl ddarluniau a beintiodd dros y tair blynedd diwethaf.