Yn yr Alban, fel y gallai fod yng Nghymru, mae rhyfel Putin yn codi cwestiynau newydd am arfau niwclear…
“… mae’r rhyfel yn Wcráin yn golygu nad oedd neb wedi ennill y Rhyfel Oer, achos, wedi 1989-90, doedd dim heddwch. Doedd yna ddim ‘gweledigaeth fawr’ a dim ymgais at gymodi. Dim cynllun economaidd i godi’r gwledydd dirwasgedig oddi ar eu gliniau. Doedd yna ddim ond clochdar a’r honiad mai dyma ‘ddiwedd hanes’. Arhosodd y niwcs.” (George Gunn ar bellacaledonia.org.uk)
Os ydi hynna’n rhybudd ar gyfer diwedd y rhyfel yma hefyd, mi fydd yna gwestiynau mawr i wledydd bach fel yr Alban a Chymru…
“… r’yn ni’n hawlio goruchafiaeth foesol trwy wrthwynebu arfau niwclear ar ein tir. Ond, o fod yn aelod o NATO, byddai’n rhaid i Alban annibynnol roi cartref i arfau niwclear morwrol tactegol newydd America. Ac a fyddai Alban hyblyg yn NATO o ddifri’n gyrru llongau tanfor niwclear Prydeinig o’r wlad os bydd Putin yn parhau yn y Kremlin?…Ydy’r Alban yn ddigon dewr i gadw at ei daliadau gwrth-niwclear?” (George Kerevan yn thenational.scotland)
Rhywbeth hollol wahanol sydd wedi gwneud i rai o flogwyr Cymru feddwl am annibyniaeth a deffroad cenedlaethol. Mewn enw… Gareth Bale. Efo’r gwefannau cymdeithasol yn llawn fideos o’r gic rydd yna, roedd Dic Mortimer yn crynhoi’r cyfan…
“Roedd yn ffordd wych i f’atgoffa pam mai pêl-droed yw’r gamp fwya’ o’r cyfan a pham yr o’n i mewn cariad â hi yn blentyn. Dyma’r gêm brydferth gyda’i holl wychder cyffrous, ei drama a’i barddoniaeth bur… i gyfeiliant tyrfa lesmeiriol yng Nghaerdydd yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ ac ‘Yma o Hyd’ mewn tri llais…” (dicmortimer.com)
Dyna pam fod sawl un bellach yn mynnu mai pêl-droed yw’r gêm genedlaethol, ym mhob ffordd…
“Os mai’r Gymdeithas Bêl-droed yw eich yncl cŵl wrth y bar yn prynu rownd o jager boms, yr Undeb Rygbi yw eich tad-cu yn y gornel yn cwyno bod y miwsig yn rhy uchel. Mae popeth wedi ei anelu at dynnu cymaint o arian o bocedi cefnogwyr ag sy’n bosib, boed trwy docynnau £100 neu wasgu ffans i’r adeilad i gynyddu arian y bar, gydag adloniant ymlaen llaw sy’n flinedig a hen… mae cynnwys Cymraeg naill ai’n ychwanegiad bach neu’n cael ei anwybyddu’n llwyr…” (Dan Pearce ar cardiffbluesblog.com)
“Oes yna rywbeth sy’n unigryw Gymreig am ddiwrnod yn y rygbi? Beth sy’n digwydd yng Nghaerdydd ar y dyddiau hynny na allai ddigwydd ym Manceinion, Nottingham neu Glasgow? Does dim byd arall yn cael y fath effaith ar syniadau am Gymru a Chymreictod y dyddiau hyn â’r tîm pêl-droed…” (Leigh Jones yn thenational.wales)
A’r un peth arall a allai droi’r fantol i gyfeiriad Plaid Cymru, meddai Ifan Morgan Jones, fyddai buddugoliaeth Lafur yn San Steffan…
“…wedyn bydd yn llawer anos i Lafur Cymru eu disgrifio’u hunain yn darian Cymru yn erbyn San Steffan… byddai hynny yn gadael Plaid Cymru ei hun unwaith eto’n berchen ar nodwedd unigryw – os nad ydych chi’n hapus gyda thriniaeth San Steffan o Gymru, rhowch gic iddyn nhw trwy bleidleisio i ni.” (nation.cymru)