Roedd gorfoledd ar hyd strydoedd Caerdydd nos Iau yn dilyn buddugoliaeth wych Cymru yn erbyn Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd, wnaeth gymryd Gareth Bale a’i griw gam yn nes at Gwpan y Byd cyntaf ers 1958.

Ond doedd dim lle i’r Gohebydd Seneddol hwn fynd dros ben llestri gyda’r dathlu, er mae’n rhaid cyfaddef fy mod i wedi taro mewn i un dafarn ar y ffordd adref!