Mae Rebecca Hayes yn ymddangos yn y gyfres ddrama newydd Bex ar S4C, sy’n ymdrin â lles ac iechyd meddwl plant.

Daeth i’r amlwg am chwarae un o’r prif gymeriadau yn y gyfres Bang ac am ganu ‘Bang Bang’ gyda’i band Cadno.

Yma mae’r actor ifanc yn egluro sut mae therapi wedi ei helpu hi yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’i gobaith y bydd y gyfres yn helpu plant a’u rhieni…