Mae bron i bedair blynedd wedi hedfan heibio ers i Geraint Thomas gamu ar y podiwm ym Mharis a chael ei goroni yn enillydd y Tour de France.
Ni fu fawr o sôn ar y pryd am sut allai Cymru elwa o gael y Cymro cyntaf erioed yn bencampwr ras feics enwoca’r byd. Yn wir, rhaid bod y Tour de France y ras enwocaf ar y blaned.
Do, mae cymalau o’r Tour of Britain wedi dod i Gymru. Ond ychydig iawn o sylw sydd i’r ras honno.