Yn y rhifyn hwn mae pedwar o golofnwyr Golwg yn trafod perfformiad emosiynol Dafydd Iwan yn y stadiwm cyn y gêm yn erbyn Awstria, ac mae’r ffaith fod pob un yn rhyfeddu at ddoniau’r dyn yn adrodd cyfrolau.

Bu’r clipiau ohono yn morio canu gyda’r dorf yn frith ar y cyfryngau cymdeithasol, ond eiliadau yn unig o’i berfformiad a gafwyd ar S4C yn ystod y darllediad byw.