Nid goliau Gareth Bale sydd wedi selio’r farn mai pêl-droed yw gêm genedlaethol Cymru erbyn hyn. Cyd-ganu ‘Yma o Hyd’ oedd yr arwydd go-iawn… ond mae’n arwydd o fwy na hynny hefyd.

Pêl-droed ydi’r gêm fwya’ wedi bod erioed ond fod rygbi, ar wahanol gyfnodau, wedi meddu ar apêl emosiynol gryfach ac yn cyd-daro’n well ag ysbryd yr oes. Mi newidiodd hynny bellach.