Oherwydd covid, doeddwn i heb fynd i unrhyw gêm fawr ers dros ddwy flynedd cyn gêm Cymru yn erbyn Awstria nos Iau ddiwethaf. I fod yn onest, roeddwn i’n meddwl efallai bod fy nyddiau o deithio lawr i Gaerdydd drosodd. Wel ar ôl yr achlysur anhygoel yr wythnos ddiwethaf, fedra i gyhoeddi rŵan fy mod i dal ar gael am ddyletswyddau rhyngwladol.