Bydd darllenwyr rheolaidd yn cofio mai wythnos yma oedd y diwrnod mawr – diwrnod fy nghystadleuaeth codi pwysau gynta un. Mi fydd rhyw hanner dwsin yn eich mysg chi (dwi’n cynnwys Mam a Dad yn y rhif yma) yn aros yn eiddgar am ganlyniad hynny dwi’n siŵr. Wel, gefais i ddim celc, ond mi ges ddiwrnod i’r brenin, yn codi pwysau yng nghysgod incinerator enfawr ar gyrion dwyreiniol y ddinas – a thorri record bersonol wrth wneud hynny. Criw o tua deg ar hugain o bobl, o bob siâp, yn cystadlu’