I’r rhan fwyaf ohonon ni, mae gweld yr erchyllterau sy’n digwydd yn Wcráin yn ein syfrdanu, yn ein cythruddo, yn ein digalonni.

Mae gweld traha awtocrat o arweinydd yn penderfynu bod ganddo hawl i oresgyn gwlad gyfan, a pheri’r dioddefaint mwyaf echrydus i filiynau o bobl wrth wneud hynny, yn ddigon i dorri calon.

Mae gweld dinasoedd cyfain wedi eu hanrheithio’n llwyr gan fomiau yn codi braw.