Dw i erioed wedi cuddio fy obsesiwn gyda bwyd. Dw i ar fy hapusaf yn bwyta ac yn hoff iawn o unrhyw beth yn ymwneud â bwyd, darllen am fwyd a bwytai neu wylio rhaglenni teledu gastronomegol. Un o’r ffefrynnau ar hyn o bryd yw Stanley Tucci: Searching for Italy ar y BBC ac fe fyddwn yn argymell honno i bawb.