Rydw i wedi gwylio miloedd o gemau pêl-droed yn fy mywyd. Ond eto, mae’n dal yn bosib i fi weld rhywbeth tydw i erioed wedi gweld o’r blaen. A dyna ddigwyddodd ddydd Sadwrn pan weles i’r Felinheli yn taro postyn chwe gwaith mewn gêm. Roedd yna amrywiaeth hefyd. Roedd yna lob o bellter, a shot o du allan y cwrt cosbi.  Roedd yna sgrambl o gic gornel a ‘one-on-one’ gyda’r gôl-geidwad. Roeddwn i’n dathlu bob un fel gôl bendant cyn i fi glywed y synau cyfarwydd – ‘Tamp! Ping! Thyd! Capo