Ro’n i’n y parc diwrnod o’r blaen yn siarad â boi dwi wedi dod i’w nabod dros y tair blynedd diwethaf. Fydda ni’n aml yn sgwrsio’n ddidrafferth â’n gilydd er nad ydyn ni’n rhy debyg ar yr olwg gyntaf – mae o’n dal, ryw ddegawd yn iau na fi, ac yn Sais o Ynys Wyth sy’n byw yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd. Rywsut, daeth testun y sgwrs at Dafydd Iwan, y gwnes i ei ddisgrifio fel “Welsh language protest singer” gan ennyn yr ymateb diffuant, “What did he have to protest abou