Os oedden ni wedi gobeithio am flwyddyn dawel, ‘normal’, wedi dwy flynedd y pandemig, mae hynny wedi newid yn llwyr.

Fydd dim yr awn ni trwyddo fo yn cymharu â’r ansicrwydd, y peryg a’r dinistr sydd o flaen pobol Wcráin, ond mi fydd cyfuniad o’r rhyfel a ffactorau eraill yn golygu bod ein byd ninnau’n newid yn sylweddol iawn.

Erbyn darllen hwn, mi fyddwch chi’n gwybod a ydi’r Canghellor wedi addo cynyddu’r gwario ar ‘amddiffyn’ ond un peryg, yn sicr, ydi cynnydd mewn milwriaeth ac arfau.