Dwi’n ymwybodol iawn o’r ddadl na ddylen ni dalu rhyw lawer iawn o sylw i farn yr echrydus Nigel Farage, ac na ddylen ni roi ocsigen cyhoeddusrwydd i’w safbwyntiau.

Dwi’n deall ac yn parchu’r ddadl honno.

Ond…

Mae’n anodd peidio ag ymateb i rai o’i ddatganiadau, a dwi’n rhyw deimlo ei bod hi’n saff trafod ei ymosodiad diweddaraf ar Gymru yn dawel fach ymhlith ein gilydd yn y gornel fach hon o gylchgrawn Golwg.