Treth y cyngor fydd nesaf.

Mi wn fod y bil ar ei ffordd. Bob dydd wrth ddod yn ôl o’r gwaith, dwi’n hanner disgwyl ei weld o yna ar y carped wrth ddrws y ffrynt, yn ddim byd ond inc ar bapur mewn amlen ond eisoes yn cario pwysau tunelli.

Dwi fel taswn i’n methu dweud y geiriau.