Fel arfer, dydy hi ddim yn ymarfer da i golofnydd ysgrifennu am rywbeth does gydag o ddim gwybodaeth amdano. Ond yr wythnos yma, rydw i’n meddwl ei bod hi’n addas.

Mae yna lawer o drafodaeth wedi bod am y rhesymau pam bod yna 10,000 o docynnau heb gael eu gwerthu ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf. Nawr, dydw i heb fod i un o gemau rygbi rhyngwladol Cymru ers pymtheg mlynedd felly pam bod gyda fi hawl i roi sylw?