Mae’n rhyfedd fel y mae amser yn newid archwaeth rhywun at bethau. Tase Sara o 1994 yn landio yma heddiw, dwi’n siŵr y byddai hi’n cael sioc o weld cymaint ryden ni nawr yn joio brocoli a chasglu pamffledi hanes lleol o’r 1970au, er enghraifft. Fydde hi’n siomedig iawn mai pleser achlysurol, dyddie yma, ydi gwrando ar Tori Amos – ac nid defod feunyddiol.