Mae cyhoeddiad Llywodraeth San Steffan am y cynllun newydd i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin yn ateb llai o gwestiynau nag y mae’n eu codi.

Ar yr olwg gynta’, mae’n ymddangos yn glogyrnaidd ac yn fiwrocrataidd ac yn, fwy na dim, heb drefn ganolog addas i dynnu popeth ynghyd.

Hyn er gwaetha’r nodweddion da – na fydd cyfyngiad ar y nifer ac y bydd gan y ffoaduriaid hawl i weithio a chael budd-daliadau. (Mae angen gweithwyr yng ngwledydd Prydain a does dim llawer iawn yn debyg o ddod).