Bob nos Sul, ers rhyw bymtheg mlynedd bellach, dw i wedi eistedd wrth fy nghyfrifiadur i ysgrifennu’r pwt wythnosol hwn i Golwg.

Mae ambell nos Sul wedi bod yn anoddach nag eraill. Mae wedi bod yn anodd meddwl am bwnc weithiau. Mae’r hwyliau wedi bod yn isel weithiau, a’r gallu i feddwl am unrhyw beth i ysgrifennu amdano heblaw am fy mhroblemau bach personol fy hun yn brin…

Ond does yna’r un golofn yr ydw i wedi eisiau ei hysgrifennu llai, erioed, na hon.