Mae yna ddau beth calonogol yn dod o drychineb yr Wcráin; barn gadarn pobol mewn gwledydd ar draws y cyfandir a gweithredu penderfynol gwladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.

Yn yr Unol Daleithiau, maen nhw’n rhyfeddu’n llawen at gyflymder Ewrop yn ymateb (ar ôl amau ar y dechrau a fyddai Rwsia yn ymosod), ond mi all hynny yn y tymor hir arwain at leihau pwysigrwydd y Tŷ Gwyn.