Gyda’r rhyfela yn dwysau yn yr Wcráin, mae geiriau yn teimlo yn annigonol ac ystrydebol.

Wrth gwrs fod yr hyn sydd yn digwydd yno yn erchyll, gyda gorchymyn Vladimir Putin i roi grymoedd amddiffyn niwclear Rwsia ar ‘rybudd uchel’ yn oeri’r gwaed.

Yn ei golofn ddadlennol yn y rhifyn hwn mae Huw Onllwyn yn manylu ar rym brawychus yr arfau sydd gan Rwsia, a’u potensial i greu dinistr ar raddfa syfrdanol – draw yn yr Wcráin ac yma yng Nghymru.