Dw i ddim yn cofio’n iawn pa raglen sgetshis oedd hi, Y Rhaglen Wirion ‘Na o bosib neu rywbeth tebyg o’r un cyfnod tua ugain mlynedd yn ôl. Y cwbl oedd y sgets oedd hysbyseb ffug am gyfres ddrama ddiweddaraf S4C, Tipyn o Dalcen Mewn Pen Stad Caled a Thennyn Amdani. Dychanu’r ffaith fod bob yn ail gyfres ddrama wedi eu lleoli mewn stad o dai difreintiedig yn y gogledd orllewin oedd y bwriad wrth gwrs. Sgets fer syml iawn ond un sydd wedi aros yn fy nghof am ryw reswm.