Dros yr wythnos ddiwethaf, mae’r llif cyson o newyddion wedi troi’n storom gryf. Wrth i bob trydar, fideo ac erthygl o’r Wcráin wibio heibio, dw i’n ceisio cofio arafu, gan holi: Pwy bostiodd hwn? Pam? Ydy o’n ddibynadwy? Ydy o’n gyfoes? Wrth geisio dysgu, a deall beth sy’n digwydd ar lawr gwlad, rhaid wynebu cyfaint mor anferth o wybodaeth, a cham-wybodaeth, ei bod yn hawdd blino ac ildio i’r fideo mwya’ syml, atyniadol, yr un sy’n codi emosiynau cryf i’r wyneb. Bob tro y bydda i’n agor y cyfri