Y targedau yng Nghymru ar gyfer arfau niwclear yw Caerdydd, Abertawe, Aberhonddu (cartref y fyddin), Baracs Cawdor yn Sir Benfro ac RAF Fali yn Sir Fôn.

Dim ond deng munud fyddai rhwng penderfyniad gan Vladimir Putin i ddefnyddio’i arfau a’u lansio. Ugain munud yn ddiweddarach fe fydd ei Intercontinental Ballistic Missiles (ICBMs) yn ffrwydro dros ein gwlad.

Mae gan Rwsia tua 400 ICBM, yn cario 1,185 o arfbennau rhyngddynt.