Mae cymdeithasau pêl-droed Gwlad Pwyl, Sweden a’r Weriniaeth Tsiec i gyd wedi cyhoeddi eu bod yn gwrthod chwarae Rwsia yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd.

Mae’r gwledydd yma wedi cymryd y cam mewn protest yn erbyn goresgyniad Rwsia o’r Wcráin. Mae Cymru hefyd wedi gwrthod chwarae Rwsia ar unrhyw lefel.