Cafodd ei henwi ar ôl ei nain, oedd, yn ôl pob tebyg, mor anwadal ac oriog â storm. Ni chafodd yr Eunice fechan gwrdd â’i nain erioed, gan iddi gael ei geni yng nghyfnod galarus, afreal y teulu, pan oedd poen y golled yn gryfach nag atgofion real. Wedi iddi farw, am ychydig fisoedd, bu pobol yn sôn am ei haelioni, ei charedigrwydd, yn ei sancteiddio, ond erbyn i Eunice fach gyrraedd oed i ddeall, roedd y byd yn cofio’i bod hi wedi ei henwi ar ôl dynes bigog, snobyddlyd, oedd yn ddig efo’r byd ta