Wrth i bethau dal i ferwi yn yr Wcráin, mae rhywbeth annisgwyl wedi digwydd a oedd yn gwbl groes i ddisgwyliadau, a gobeithion, Vladimir Putin – mae NATO, y gynghrair a ffurfiwyd fel modd i atal bygythiadau comiwnyddol yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd, wedi ffeindio pwrpas iddi’i hun unwaith eto.