Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd gan athrawon hawl i daro plant.

Roedd y gansen yn dal i gael ei defnyddio o dro i dro. Cafodd ei bygwth arnaf i unwaith, a hynny am i fi wenu pan oedd athro ynghanol dweud y drefn wrth y dosbarth am ryw gamymddwyn pitw (er nad oeddwn i’n ymwybodol ’mod i wedi gwenu o gwbl!)