Mae’n anodd gwybod ble i ddechrau yr wythnos hon.
“Jôc” rhyw gomedïwr o Sais am boenydio a llofruddio cannoedd o filoedd o blant a phobl ddiniwed yn ystod yr Holocost…
Un o brif newyddiadurwyr y BBC yn gweld bai ar Lywodraeth Cymru am ei huchelgais i adfer nifer y siaradwyr Cymraeg i’r hyn ydoedd ychydig dros gan mlynedd yn ôl, am fod hynny’n gwneud iddo yntau deimlo’n llai o Gymro…